[yn ol at Coleg Chris]

 

STAFF A PHOBL Y CWRS

Dechreuodd y cwrs ym 1994 ac ymunais i gyda fo yn 1995 i gymryd y fodiwlau technegol. On i'n gweithio o dan arweiniad bendigedig "y Ddwy Fair", sef Mair Gruffydd (cyfarwyddwraig, dramodydd) a Mair Tomos Ifans (neu Mair Harlech fel mae'n dweud; actores, perfformwraig, sgwennwraig, mam). Roedd y tri ohonon ni y "triumvirate cyntaf" i reolu'r cwrs.

O 1997 ymlaen, darganfoddais i fi fy hun yn cydlunio'r cwrs ac arwainu'r Maes Rhaglen hefyd, sef Celfyddydau Mynegiol. Gulp!

Pobl eraill ar y staff:

Roedd yn bleser i fi weld rhai o'r hen fyfyrwyr yn ymuno fel aelodau o staff, ar ol cwblhau eu haddysg uwch.

Roedd 'na griw arall, pwysig yn y Coleg hefyd oedd yn rhoi cymorth i'r cwrs a'r myfyrwyr.

Dros y flynyddoedd, daeth nifer o gwmniau theatr i'r Coleg i berfformio neu gweithio efo'r myfyrwyr. Roedd yn ardderchog i gael nhw i mewn a phrofiad da iawn i'r myfyrwyr (a fi!). Mae rhai ohonyn isod...

 

[yn ol at Coleg Chris]