Penrhos Home Page
Site
Map
Planning
stuff
[prepared for the 2000 application for a low impact dwelling for a permaculture (sustainable) holding]
Annwyl.....
Rydan ni yn ysgrifennu atoch fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri am ein cais ni am dý yn Nhir Penrhos Isaf (rhif cais NP5/60/7). Achos mae’r cais yma wedi bod yn mynd ymlaen am gryn dipyn rwan, mae’r pwyllgor wedi newid a dydyn ni ddim yn adnabod y rhan fwyaf o’r aelodau. Felly, rydan ni yn ysgrifennu atoch i wneud yn sicr bod gennych o leiaf dipyn o gefndir amdanyn ni.
Daethon ni i Gymru yn 1976 ac i’r ardal Dolgellau yn 1982. Brynson ni Tir Penthros Isaf yn 1986 a rydan ni wedi bod yn gweithio ar y safle ers hynny. Caswson ni caniatâd dros dro i fyw yno ym 1991. Fel dweudson ni yn ein cais gwreiddiol, ein bwriad ni oedd sefydlu nifer o fusnesau cysylltiedig, sydd yn cefnogi eu gilydd, wedi eu sylfaenu ar y tir, ac yn dilyn y patrymau o’r foeseg a’r egwyddorion amaeth parhaol (permaculture design). Fel rydan ni wedi esbonio, mae’r foeseg a’r egwyddorion yma yn delio a’r anghenion y gymdeithas a’r amgylchedd ac yn adlewyrchu’r datganiadau ar ddatblygiad cynhaliol gan y Cynulliad a’r Parc Cenedlaethol Eryri.
Fel rydan ni wedi dweud yn ein ceisiadau, dydyn ni ddim yn credu bod cyflog enfawr ydy’r unig ffordd o ddangos llwyddiant yng nghefn gwlad. Rydan ni wedi bod yn dadlau ers y dechreuad, cydweithio a rhannu neu gyfnewid gwasanaethau, cynnyrch ac offer a chymryd rhan yn y gymdeithas ydy ffordd traddodiadol o fyw yn yr ardal yma, a dyna beth rydan ni wedi bod yn ceisio gwneud.
O dan bwys gan y Parc i ddangos llwyddiant ariannol, ym 1995 roedd rhaid i mi gymryd gwaith allanol i godi arian i ddatblygu elfennau busnes o’r safle. Yn anfoddus, cafodd Lyn cancr a roedd rhaid iddi hi gael triniaeth lawfeddygol a chyfnod hir i wella ac wrth gwrs, mae hynny wedi cael effaith ddrwg ar ein gwaith ni. Ers hynny, mae’r sefyllfa wedi gwella ac yr angen am arian drwy waith allanol wedi lleihau. Roedd yn bosib i roi fy sylw i mewn a byddwn ni yn gallu canolbwyntio yn hollol ar y safle ar gymunedau lleol, sef Hermon, Abergeirw, Ganllwyd a Llanfachreth.
Rydan ni yn credu ein bod ni wedi datblygu cyflog o’r tir sydd yn dangos bod ni wedi llwyddo yn ein bwriadau ni. Mae’r cyflog yn dibynnu ar gyrsiau, ymwelwyr, trinio ceffylau, yr ardd, planhigion ac anifeiliaid.
Rydan ni yn meddwl bod y cais yma yn unigryw a bydd dal gan y Parc rheol drwy nifer o bethau. Ysgrifennson ni meini prawf i fesur llwyddiant tyddynnod cynhaliol ym 1994 a rydan ni wedi awgrymu bod y Parc yn defnyddio nhw fel rhan o’r amodau ar y cais. Byddent yn hapus i glymu tý i’r tir a chael caniatâd personol pe tasai hynny yn rhaid. Hefyd, mae hawlfraint ar y gair "Permaculture" (gan yr elusen rhyngwladol) a basen ni (ag eraill yn y gymdeithas Amaeth Parhaol) yn gwrthwynebu pe tasai rhywun yn ceisio camddefnyddio yr enw neu’r syniadau. Gobeithio byddech yn cefnogi’r cais yma. Diolch am eich amser a hoffwn i ymddihiro am unrhyw gamgymeriadau yn y Gymraeg.
Yn ddiffuant,
Chris, Lyn a Sam Dixon